Lleoliad:
Lleoliad Allanol
Dyddiad: Dydd Mawrth, 18 Hydref 2022
Amser:
09.01 -
09.19
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Siân Gwenllian AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
Gwnaeth y Trefnydd gais i’r Pwyllgor Busnes gytuno i drefnu dadl ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Prisiau Ynni ddydd Mercher 19 Hydref, gan atal Rheolau Sefydlog dros dro i ganiatáu i’r ddadl gael ei chynnal. Derbyniwyd y cais gan fod yr amserlen yn symud yn gynt ar gyfer pasio'r Bil yn San Steffan, gyda'r Bil wedi'i gyflwyno ar 12 Hydref a dyddiad arfaethedig ar gyfer Cydsyniad Brenhinol ar 25 Hydref. Oherwydd diffyg amser, cytunodd y Pwyllgor Busnes i beidio â chyfeirio'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol i Bwyllgor ar gyfer gwaith craffu.
Yn sgil hynny, mae'r eitemau canlynol wedi'u hychwanegu at agenda dydd Mercher:
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 26 Hydref –
Dydd Mercher 16 Tachwedd 2022 –
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 16 Tachwedd 2022 –
3.4 Dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig i’w drafod
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ddydd Mercher 26 Hydref 2022:
NNDM8108 Sioned Williams
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil defnyddio budd-daliadau.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) sicrhau bod mwy o arian yn dod i bocedi pobl Cymru drwy gynyddu'r defnydd o daliadau cymorth Cymreig a thaliadau cymorth awdurdodau lleol;
b) gosod dyletswydd ar bob sefydliad sector cyhoeddus i hyrwyddo i'r eithaf y defnydd o fudd-daliadau Cymreig a budd-daliadau awdurdodau lleol;
c) ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus symleiddio a sicrhau cysondeb drwy Gymru o ran y dull o ymgeisio am fudd-daliadau o'r fath.
4 Deddfwriaeth
4.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Bil Protocol Gogledd Iwerddon.
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cais am estyniad i'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ar y Cynnig ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon. Yn seiliedig ar drefnu dadl ar y Cynnig ar gyfer 8 Tachwedd yn sgil yr amserlen ar gyfer y Bil yn San Steffan, daeth y Pwyllgor Busnes i’r casgliad nad yw’n bosibl ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar hyn o bryd. Dywedodd y Trefnydd, os bydd yr amserlen seneddol yn newid, byddai’r Llywodraeth yn fodlon ailedrych ar yr amserlen ar gyfer craffu ar y Cynnig.
5 Busnes y Senedd
5.1 Nodyn ar y Cadeirydd Dros Dro a rolau eraill sydd ar gael i gadeirio trafodion y Cyfarfod Llawn
Nododd y Pwyllgor Busnes y papur ar y gwahanol rolau sydd ar gael i gadeirio trafodion, a chytunodd i gyflwyno cynnig bod Paul Davies AS yn cael ei ethol yn Gadeirydd Dros Dro Cyfarfodydd Llawn o dan Reol Sefydlog 6.23A, i'w ystyried ar 26 Hydref.
6 Unrhyw faterion eraill
Nododd y Rheolwyr Busnes y trefniadau ar gyfer briff technegol ar waith presennol y Pwyllgor Busnes ar argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd, a fydd yn cael ei gynnal ar 19 Hydref.